Mae’r Pecyn Cymorth Cyfathrebu yn cynnwys:
Problemau cyfathrebu ar ôl strôc
Mae problemau gyda chyfathrebu yn gyffredin ar ôl strôc. Bydd y canllaw hwn yn helpu goroeswyr strôc a’u hanwyliaid i ddeall mwy amdanynt.
Strôc – gwybodaeth sy’n ystyriol o affasia
Gwybodaeth am strôc i bobl ag anawsterau cyfathrebu.
Eich cyfathrebu ar ôl strôc – gwybodaeth sy’n ystyriol o affasia
Gwybodaeth am broblemau cyfathrebu ar ôl strôc i bobl ag anawsterau cyfathrebu.
Cerdyn cyfathrebu
Gall pobl ddefnyddio’r cerdyn maint waled hwn i roi gwybod i bobl eu bod nhw wedi cael strôc ac efallai y bydd angen help arnynt i gyfathrebu.
Llyfr Lluniau Cyfathrebu
Gall y llyfr hwn helpu pobl i gyfathrebu’n dda yn yr ysbyty, gartref ac yn y gymuned. Mae’r lluniau a’r eiconau yn cwmpasu ystod eang o bynciau bob dydd y gall pobl bwyntio atynt i ddweud wrth bobl amdanynt eu hunain, esbonio sut maen nhw’n teimlo a gadael iddyn nhw wybod beth maen nhw ei eisiau a’i angen.