Nifer: pob eitem a archebir = un blwch sy’n cynnwys 10 pecyn
Uchafswm nifer o archebion: hyd at 5 blwch fesul archeb (felly hyd at 50 pecyn i gyd)
Mae’r Pecyn Cymorth Cyfathrebu yn cynnwys:
Problemau cyfathrebu ar ôl strôc (canllaw A4)
Mae problemau gyda chyfathrebu yn gyffredin ar ôl strôc. Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall mwy amdanynt.
Strôc – gwybodaeth sy’n ystyriol o affasia
Gwybodaeth am strôc i bobl ag anawsterau cyfathrebu.
Eich cyfathrebu ar ôl strôc – gwybodaeth sy’n ystyriol o affasia
Gwybodaeth am broblemau cyfathrebu ar ôl strôc i bobl ag anawsterau cyfathrebu.
Cerdyn cyfathrebu
Defnyddiwch y cerdyn maint waled hwn i roi gwybod i bobl eich bod wedi cael strôc ac efallai y bydd angen help arnoch i gyfathrebu.
Llyfr Lluniau Cyfathrebu
Gall y llyfr hwn eich helpu i gyfathrebu’n dda yn yr ysbyty, gartref ac yn y gymuned. Mae’r lluniau a’r eiconau yn cwmpasu ystod eang o bynciau bob dydd. Gallwch bwyntio at y lluniau a’r eiconau i ddweud wrth bobl amdanoch chi eich hun, esbonio sut rydych chi’n teimlo a gadael iddyn nhw wybod beth rydych chi ei eisiau a’i angen.