Mae’r Pecyn Cymorth Strôc Hygyrch ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i’w archebu a’i roi i’w cleifion tra byddant yn yr ysbyty.
Mae’n llawn gwybodaeth ac offer cyfathrebu hanfodol i gefnogi eich cleifion a’u teuluoedd i ddysgu am gyfathrebu ar ôl strôc. Bydd ein hoffer a’n canllawiau cyfathrebu yn helpu pobl i ddod o hyd i atebion i gwestiynau pwysig am affasia a phroblemau cyfathrebu eraill, yn ogystal â rhai awgrymiadau ymarferol, a cherdyn cyfathrebu i’w ddangos i bobl eraill, i’w helpu i ddeall yn well beth maen nhw’n ei brofi a sut y gallant helpu
Sylwer: Mae’r wybodaeth yn y ffolder ‘helo’yn y Pecyn Cymorth Strôc Hygyrch yr un peth â’r Pecyn Cymorth Cyfathrebu.
Sut i archebu Caiff y pecynnau eu cyflenwi mewn bocsys o 15. Mae archebion wedi’u cyfyngu i uchafswm o 4 bocs, 100 copi fesul archeb. Gellir addasu hyn yn seiliedig ar adborth tîm yr ysbyty.
Archebwch 1 eitem i dderbyn 15 copi.
Archebwch 5 eitem i dderbyn 75 copi (dyma’r archeb fwyaf).
Sylwer: Os nad ydych chi‘n weithiwr gofal iechyd proffesiynol neu’n archebu ar ran un, nid yw’r pecynnau hynar gael i’w prynu’n unigol. Gallwch archebu Pecyn Cymorth Cyfathrebu unigol, sy’n cynnwys yr un wybodaeth, ar ein tudalen Adnoddau a chanllawiau.
Mae’r Pecyn Cymorth Strôc Hygyrch yn cynnwys dau ganllaw gwybodaeth ystyriol o affasia: ‘strôc‘ a ‘eich cyfathrebu ar ôl strôc’i bobl ag anawsterau cyfathrebu a cherdyn cyfathrebu y gallant ei ddangos i bobl eraill. Hefyd, llyfr lluniau cyfathrebu wedi’i ddylunio ar gyfer y rheiny sydd ag anawsterau cyfathrebu cymedrol i ddifrifol. Gall y llyfr hwn helpu’ch cleifion i gyfathrebu’n dda yn yr ysbyty, gartref ac yn y gymuned.
Hefyd, mae canllaw ‘problemau cyfathrebu ar ôl strôc’, i bobl sy’n cefnogi rhywun ar ôl strôc.
Archebwch a rhannwch y pecyn gyda’ch cleifion cyn eu rhyddhau.