Nifer: pob eitem a archebir = un blwch sy’n cynnwys 10 pecyn
Uchafswm nifer o archebion: hyd at 5 blwch fesul archeb (felly hyd at 50 pecyn i gyd)
Mae’r Pecyn Cymorth Cyfathrebu yn cynnwys:
Problemau cyfathrebu ar ôl strôc
Mae problemau gyda chyfathrebu yn gyffredin ar ôl strôc. Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall mwy amdanynt.
Strôc – gwybodaeth sy’n ystyriol o affasia
Gwybodaeth am strôc i bobl ag anawsterau cyfathrebu.
Eich cyfathrebu ar ôl strôc – gwybodaeth sy’n ystyriol o affasia
Gwybodaeth am broblemau cyfathrebu ar ôl strôc i bobl ag anawsterau cyfathrebu.
Cerdyn cyfathrebu
Defnyddiwch y cerdyn maint waled hwn i roi gwybod i bobl eich bod wedi cael strôc ac efallai y bydd angen help arnoch i gyfathrebu.
Llyfr Lluniau Cyfathrebu
Gall y llyfr hwn eich helpu i gyfathrebu’n dda yn yr ysbyty, gartref ac yn y gymuned. Mae’r lluniau a’r eiconau yn cwmpasu ystod eang o bynciau bob dydd. Gallwch bwyntio at y lluniau a’r eiconau i ddweud wrth bobl amdanoch chi eich hun, esbonio sut rydych chi’n teimlo a gadael iddyn nhw wybod beth rydych chi ei eisiau a’i angen.
Noder: Os nad ydych chi’n weithiwr gofal iechyd proffesiynol neu’n archebu ar ran un, nid yw’r pecynnau hyn ar gael i’w prynu’n unigol. Gallwch archebu Pecyn Cymorth Cyfathrebu unigol, sy’n cynnwys yr un wybodaeth, ar ein tudalen Adnoddau a chanllawiau.