Pecyn Cymorth Cyfathrebu Proffesiynol

£0.00

Nifer: pob eitem a archebir = un blwch sy’n cynnwys 10 pecyn

Uchafswm nifer o archebion: hyd at 5 blwch fesul archeb (felly hyd at 50 pecyn i gyd)

Dylai’r eitem hon gyrraedd o fewn pythefnos. 

Bydd ein hoffer a’n canllawiau cyfathrebu yn helpu goroeswyr strôc a’u teuluoedd, gofalwyr a ffrindiau i ddysgu am anawsterau cyfathrebu ar ôl strôc. Byddant yn dod o hyd i atebion i gwestiynau pwysig am affasia a phroblemau cyfathrebu eraill, yn ogystal â rhai awgrymiadau ymarferol, a cherdyn cyfathrebu i’w ddangos i bobl eraill, i’w helpu i ddeall yn well beth maen nhw’n ei brofi a sut y gallant helpu.  

Mae’r Pecyn Cymorth Cyfathrebu ar gael yn Saesneg hefyd.

Noder: Os nad ydych chi’n weithiwr gofal iechyd proffesiynol neu’n archebu ar ran un, nid yw’r pecynnau hyn ar gael i’w prynu’n unigol. Gallwch archebu Pecyn Cymorth Cyfathrebu unigol, sy’n cynnwys yr un wybodaeth, ar ein tudalen Adnoddau a chanllawiau.

Availability: In stock

Nifer: pob eitem a archebir = un blwch sy’n cynnwys 10 pecyn

Uchafswm nifer o archebion: hyd at 5 blwch fesul archeb (felly hyd at 50 pecyn i gyd)

Mae’r Pecyn Cymorth Cyfathrebu yn cynnwys: 

Problemau cyfathrebu ar ôl strôc 
Mae problemau gyda chyfathrebu yn gyffredin ar ôl strôc. Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall mwy amdanynt. 

Strôc – gwybodaeth sy’n ystyriol o affasia 
Gwybodaeth am strôc i bobl ag anawsterau cyfathrebu. 

Eich cyfathrebu ar ôl strôc – gwybodaeth sy’n ystyriol o affasia
Gwybodaeth am broblemau cyfathrebu ar ôl strôc i bobl ag anawsterau cyfathrebu. 

Cerdyn cyfathrebu 
Defnyddiwch y cerdyn maint waled hwn i roi gwybod i bobl eich bod wedi cael strôc ac efallai y bydd angen help arnoch i gyfathrebu. 

Llyfr Lluniau Cyfathrebu 
Gall y llyfr hwn eich helpu i gyfathrebu’n dda yn yr ysbyty, gartref ac yn y gymuned. Mae’r lluniau a’r eiconau yn cwmpasu ystod eang o bynciau bob dydd. Gallwch bwyntio at y lluniau a’r eiconau i ddweud wrth bobl amdanoch chi eich hun, esbonio sut rydych chi’n teimlo a gadael iddyn nhw wybod beth rydych chi ei eisiau a’i angen.  

Noder: Os nad ydych chi’n weithiwr gofal iechyd proffesiynol neu’n archebu ar ran un, nid yw’r pecynnau hyn ar gael i’w prynu’n unigol. Gallwch archebu Pecyn Cymorth Cyfathrebu unigol, sy’n cynnwys yr un wybodaeth, ar ein tudalen Adnoddau a chanllawiau.

Shopping Basket
Scroll to Top